Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Ymchwiliad un-dydd i farw-enedigaethau yng Nghymru 

SB 14 - Bwrdd Iechyd Cwm Taf

 

CWM taf BK outline

 

 

TEITL YR ADRODDIAD TROSOLWG

 

Atal Genedigaethau Marw

 

SEFYLLFA / DIBEN YR ADRODDIAD

 

Ymateb i’r “Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol” mewn perthynas â’r Ymchwiliad i Enedigaethau Marw yng Nghymru

 

 

CEFNDIR / RHAGAIR

 

Mae pob genedigaeth farw’n drychineb. Cysylltir genedigaethau marw â llu o achosion megis mamau iau (dan 25 oed), neu famau hŷn (dros 40 mlynedd), gordewdra (Mynegai Màs Corff sy’n uwch na 35), beichiogiadau lluosol, ysmygu yn ystod beichiogrwydd, cymhlethdodau yn ystod beichiogrwydd megis cyneclampsia, anhwylderau meddygol sy’n bodoli eisoes megis diabetes, anhwylderau’r brych, abnormaleddau cynhenid ac ethnigrwydd. Serch hynny, mewn llawer achos o enedigaeth farw mae’r rheswm yn aros yn anhysbys. Yr un mor ansicr yw’r rhesymau dros yr amrywiadau o ranbarth i ranbarth yn y gyfradd genedigaethau marw, ond mae menywod sy’n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig 1.7 gwaith yn debycach o ddioddef genedigaeth farw na menywod sy’n byw yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig. Mae gan Fwrdd Iechyd Cwm Taf lefel uchel o fynegeion iechyd gwael ar draws ei boblogaeth. Yn ogystal â’r effeithiau corfforol, mae genedigaeth farw’n gallu gadael effaith emosiynol, seicolegol a chymdeithasol ddwfn ar y rhieni a’r teulu i gyd.

 

Mae pob gwasanaeth mamolaeth ledled y wlad yn adrodd am enedigaethau marw, ac mae’r sgôr ddosbarthu ddiwygiedig wedi arwain at welliant yn y modd o hel data a fydd yn helpu gweithwyr proffesiynol i ddarganfod patrymau a thrwy hynny ddeall pam mae genedigaethau marw yn digwydd. Mae unedau mamolaeth yn adolygu ac yn monitro eu cyfraddau eu hunain hefyd fel y gellir rhoi prosesau a gweithdrefnau ar waith i wella eu gwasanaethau.

 

Mae darparu gofal mamolaeth ar gyfer menywod sy’n byw yn nalgylch Cwm Taf yn creu heriau sy’n deillio o iechyd gwael y boblogaeth a’r amddifadedd cymdeithasol sydd yn yr ardal. Mae gan Fwrdd Iechyd Cwm Taf y ganran uchaf yng Nghymru o enedigaethau ymhlith mamau dan 20 mlwydd oed (10.7%) (WIMD, 2008). Mae hyn, ochr yn ochr ag amddifadedd cymdeithasol, yn gysylltiedig â lefelau uchel o ysmygu, defnyddio alcohol, babanod isel eu pwysau adeg y geni ac afiechydon meddyliol, sydd i gyd ar lefelau uchel yn ardal Cwm Taf. Mae gordewdra yn gyffredin iawn ymhlith darpar famau yng Nghymru, a gwelir llu o fenywod yn nalgylch Bwrdd Iechyd Cwm Taf (BICT/CTHB) â mynegai màs corff (MMC/BMI) uchel. 

 

Dangoswyd bod gordewdra’n cynyddu amlder cyneclampsia, gwaedlifau cyn geni a diabetes, sydd yn ffactorau a gysylltir â genedigaethau marw. 

 

Nifer y genedigaethau byw yn nalgylch Bwrdd Iechyd Cwm Taf yn ystod 2011 oedd 4310, o’i chymharu â 4345 o enedigaethau byw yn 2010. Bu 16 o enedigaethau marw yn 2011, o’u cymharu â 17 o enedigaethau marw yn 2010. Mae hyn yn cyfateb i 4% o gyfanswm y genedigaethau yn ystod y ddwy flynedd, sy’n is na’r ganran ar gyfer Cymru Gyfan. 

 

Mae’r Ystadegau Cenedlaethol diweddaraf a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar enedigaethau a marwolaethau babanod yn dangos bod 35,952 o fabanod wedi cael eu geni’n fyw, y nifer uchaf mewn blwyddyn ers 1993.  Er bod nifer y babanod a anwyd gan fenywod dan 20 mlwydd oed wedi syrthio, bu cynnydd o 50 % yn nifer y babanod a anwyd gan fenywod dros 40 mlwydd oed yn Nghymru. Mae’r duedd genedlaethol yn y gyfradd genedigaethau marw wedi gostwng ers 2000 o 5.4 (2000) i 5.2 (2009) i bob 1,000 o enedigaethau. Mae’r gyfradd genedigaethau marw ar gyfer gefeilliaid wedi syrthio yn ogystal.

 

Y Sefyllfa Bresennol ym Mwrdd Iechyd Cwm Taf

 

Mae Bwrdd Iechyd Cwm Taf yn darparu gofal dan arweiniad ymgynghoryddion a bydwragedd ar gyfer menywod beichiog mewn dau Ysbyty Cyffredinol Dosbarth. Mae menywod sydd â ffactorau risg penodol yn derbyn gofal gan obstetrydd ymgynghorol, ac mae menywod ag anhwylderau meddygol yn derbyn gofal cydranedig a ddarperir gan obstetrydd ar y cyd â ffisigydd neu lawfeddyg arbenigol. Cynigir gofal dan arweiniad bydwraig i fenywod heb ffactorau risg, ac mae cysylltiadau ardderchog rhwng y bydwragedd a’r obstetryddion fel y gellir darparu gwasanaeth cyfannol ac integredig gwydn.

 

Mae gweithwyr proffesiynol ym Mwrdd Iechyd Cwm Taf yn gweithredu’n rhagweithiol at leihau’r risgiau i fenywod beichiog, ac maent yn ymwybodol o’r cyfarwyddyd cyfredol a’r argymhellion ynghylch atal genedigaethau marw. Mae’r gweithrediadau canlynol mewn grym gyda golwg ar leihau’r gyfradd genedigaethau marw:

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Cedwir llygad ar effeithioldeb y modd o roi’r gweithrediadau uchod ar waith yn y ffyrdd canlynol:

 

 

Cydrannu gwybodaeth a’r gwersi a ddysgir trwy gyfrwng cyfarfodydd aml-ddisgyblaethol.

 

·         Archwiliadau clinigol

 

·         Adolygiadau clinigol a Dadansoddi Achosion Sylfaenol.

 

·         Defnyddir y dangosfwrdd bydwreigiaeth i wneud cymariaethau a monitro’n barhaus.

 

·         Trefniadau Llywodraethedd y Gyfarwyddiaeth Obstetreg, Gynecoleg ac Iechyd Rhywiol.

 

·         Mae digwyddiadau rhybuddiol (sentinel) –  sy’n gallu cynnwys genedigaethau marw –  yn arwain at adolygiad gan y Cyfarwyddydd Meddygol a’r Cyfarwyddydd Nyrsio, ac maent yn cael eu hadrodd ymlaen at Lywodraeth Cymru a’r Bwrdd Iechyd.

 

 

GWEITHREDIADAU PARHAUS

 

Mae’r gweithrediadau canlynol yn cael eu cyflawni ar hyn o bryd o fewn Bwrdd Iechyd Cwm Taf gyda golwg ar yrru’r gyfradd genedigaethau marw ymhellach i lawr:

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Mae’r Bwrdd Iechyd wedi cynnal canran o enedigaethau marw sy’n is na’r cyfartaledd Cymreig, a hynny er gwaethaf mynegeion iechyd heriol sylweddol ymhlith y boblogaeth. Rydym yn ymdrechu’n barhaus i wella, ac mae safonau’r driniaeth a’r gofal a ddarperir yn y gwasanaethau obstetreg a bydwreigiaeth yn cael eu craffu a’u monitro’n astud trwy gyfrwng strwythurau llywodraethu’r Bwrdd Iechyd.

 

 

 

Allison Williams, Prif Weithredydd

Bwrdd Iechyd Cwm Taf.

 

25ain Mai 2012.